Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Chwefror 2022
Amser:
09.30 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12604
------
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau o’r Senedd: |
Delyth Jewell AS (Cadeirydd) Hefin David AS Alun Davies AS Heledd Fychan AS Tom Giffard AS Carolyn Thomas AS |
|
Tystion: |
Susie Ventris-Field, Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru Claire O'Shea, Wales Overseas Agencies Group Zara May, Cymreig Byd-Eang Jenny Scott, British Council Cymru Charles Whitmore, Prifysgol Caerdydd Ben Lloyd, WCVA Berwyn Davies, Addysg Uwch Cymru Noel Mooney, Football Association Wales Eluned Haf, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Sian Lewis, Urdd Gobaith Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Lleu Williams (Clerc) Tanwen Summers (Dirprwy Glerc) Osian Bowyer (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, penderfynodd y Cadeirydd wahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
2 Ymchwiliad undydd i Gysylltiadau Rhyngwladol: Cymry ar wasgar a rhyngwladol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru; Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru; a Global Welsh.
2.2 Cytunodd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Grŵp Asiantaethau Tramor Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a godwyd ynghylch strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru.
3 Ymchwiliad undydd i Gysylltiadau Rhyngwladol: Ewrop a rhyngwladol
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y British Council; Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.
4 Ymchwiliad undydd i Gysylltiadau Rhyngwladol: Chwaraeon, diwylliant a’r celfyddydau (rhyngwladol)
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru; Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; ac Urdd Gobaith Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Ôl-drafodaeth breifat
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8 Craffu ar Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Trafod yr adroddiad drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, a chytunodd i’w gyhoeddi yn amodol ar fân newidiadau.
9 Adolygiad o amserlen a chylchoedd gwaith y pwyllgor: Trafod yr ohebiaeth ddrafft
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ddrafft i'r Pwyllgor Busnes ynghylch ei adolygiad, a chytunodd arni.
10 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael): Trafod Nodyn Cyngor Cyfreithiol
10.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gyfreithiol mewn perthynas â’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.